Hormonal Housewives

Hormonal Housewives

Archebwch Nawr

Ymunwch  â’r Hormonal Housewives bywiog gyda giamocs doniol heb ddal yn ôl o gwbl ar y llawenydd o fod yn ddynes wych yn y 21 ganrif.

Mae magu pwysau, colli pwysau, hwyliau oriog, dynion, zumba, dynion,  cwyro lein bicini, siopa ar-lein, siocled, gwin, mwy o siocled, mwy o win, plant yn eu harddegau yn strancio, mynd allan ac aros i mewn yn cael eu trafod gyda chrib mân mewn ffordd fywiog iawn! Ac mae mwy – mae rhai o’r darnau gorau o’r daith flaenorol a fu’n llwyddiant ysgubol yn cael y cynulleidfaoedd yn rowlio chwerthin......unwaith eto!

Noson ddoniol tu hwnt – tydi’r pethau na all y merched yma ddysgu i chi am fod yn ddynes fodern ddim gwerth gwybod amdanyn nhw!