High School Musical
-

Coleg Dewi Sant yn cyflwyno

High School Musical

-
Archebwch Nawr

Bydd ffilm gerdd poblogaidd Disney Channel yn dod yn fyw ar lwyfan Theatr Colwyn, wrth i Goleg Dewi Sant gyflwyno cynhyrchiad amatur o High  School Musical!

Bydd cast talentog a brwdfrydig o berfformwyr ifanc, rhwng 9 ac 17 oed, yn adrodd hanes Troy, Gabriella a disgyblion East High sy’n gorfod ymdopi â phroblemau disgyn mewn cariad am y tro cyntaf, ffrindiau a theulu, yn ogystal â cheisio cydbwyso eu dosbarthiadau â'u gweithgareddau allgyrsiol.

Bydd y sioe yn cynnwys yr holl ganeuon poblogaidd o'r ffilm, megis: Start of Something New, Stick to the Status Quo ac We’re All in this Together; heb os, mae High School Musical Disney yn sioe llawn hwyl i'r teulu cyfan.

 
Mae cyfansoddwyr y caneuon yn y sioe yn cynnwys Matthew Gerrard  a Robbie Nevil; Ray Cham, Greg Cham a Andrew Seeley; Randy Petersen a Kevin Quinn; Andy Dodd ac Adam Watts; Bryan Louiselle; David N. Lawrence a Faye Greenberg; Jamie Houston
Mae’r gerddoriaeth wedi'u haddasu, eu trefnu a'u cynhyrchu gan Bryan Louiselle
Llyfr gan David Simpatico
Yn seiliedig ar Ffilm Wreiddiol Disney Channel a gafodd ei hysgrifennu gan Peter Barsocchini
Mae’r cynhyrchiad amatur hwn wedi’i gyflwyno drwy drefniant gyda’r Music Theatre International (Ewrop). Mae’r holl ddeunyddiau perfformio awdurdodedig hefyd wedi’u cyflenwi gan y MTI (www.mtishows.co.uk).