Hansard; enw Adroddiad swyddogol o bob trafodaeth seneddol.
Profwch enillwyr dwy wobr Oliver, Lindsay Duncan (Birdman, About Time) ac Alex Jennings (The Lady in the Van, The Queen), yn y ddrama lwyfan newydd sbon hon gan Simon Wood, wedi'i darlledu’n fyw o'r Theatr Genedlaethol yn Llundain.
Mae hi'n fore o haf yn 1988 ac mae'r gwleidydd Torïaidd Robin Hesketh wedi dychwelyd adref i'r tŷ eidylig y mae’n ei rannu gyda’i wraig o 30 mlynedd, Diana. Ond nid yw popeth mor hapus ag yr ymddengys. Mae gan Diana ben mawr ar ôl bod yn yfed, mae llwynog yn dinistrio ei gardd ac mae cyfrinachau’n cael eu datgelu ymhobman. Wrth i’r diwrnod fynd rhagddo, mae beth sy’n dechrau fel jôc a rhythmau cyfarwydd ffrae priodasol, yn troi’n gyflym i fod yn helfa go iawn.
Peidiwch â cholli’r portread doniol a difrifol hwn o’r dosbarth llywodraethol, a gyfarwyddir gan Simon Goodwin (NT Live: Antony & Cleopatra, Twelfth Night) ac sy’n rhan o dymor pen-blwydd y National Theatre yn 10 oed.