Hairspray
-

Hairspray

-
Archebwch Nawr

Mae’r sioe gomedi gerdd enwog Hairspray yn dychwelyd i Landudno gyda chynhyrchiad sy’n siŵr o wneud i chi ddawnsio drwy’r nos!

Baltimore ym 1962 yw’r lleoliad, ac mae Tracy Turnblad, merch llond ei chroen gyda gwallt mawr a chalon fwy fyth, yn canlyn ei breuddwydion ac yn dawnsio’i ffordd i fod yn seren deledu genedlaethol.  Mae clyweliad Tracy yn ei gwneud yn seren leol a chyn bo hir, mae’n defnyddio’i henwogrwydd newydd i ymladd dros gydraddoldeb, gan ddenu'r pishyn lleol Link Larkin yn gariad iddi'r un pryd!

★★★★★

‘As light and bouncy as a bubble of gum’

The Observer, Clare Brennan

Mae’n cynnwys y caneuon enwog ‘Welcome To The 60s’, ‘You Can’t Stop The Beat’, ‘Nicest Kids in Town’ a llawer mwy.

Mae’r sioe gyfareddol hon sy’n siŵr o godi hwyliau pawb yn berffaith i’r teulu cyfan – gadewch iddi godi gwallt eich pen! Archebwch eich tocynnau nawr!

@HairsprayUKTour