Goodbye Christopher Robin
-

Goodbye Christopher Robin

Tystysgrif PG

-
Archebwch Nawr

Mae Goodbye Christopher Robin yn darparu ciplun prin o’r berthynas rhwng yr awdur plant poblogaidd A.A. Milne (Domhnall Gleeson) a’i fab Christopher Robin (Will Tilston), yr oedd ei deganau yn ysbrydoliaeth ar gyfer byd hudolus Winnie-the-Pooh.

Gyda’i fam Daphne (Margot Robbie), a’i nani Olive (Kelly Macdonald), mae Christopher Robin a’i deulu yng nghanol llwyddiant rhyngwladol y llyfrau; y straeon hyfryd yn dod â gobaith a chysur i Loegr ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.  Ond gyda llygaid y byd ar Christopher Robin, beth fydd y gost i’r teulu?

Seren Domhnall Gleeson, Margot Robbie, Kelly Macdonald