Golau Gaeaf

Pennod 1

Golau Gaeaf

Perfformiad Ymdeithiol

Mwy o wybodaeth

Dewch yn Llu! Ymunwch â ni am orymdaith fin nos o chwedlau a rhyfeddodau ar strydoedd Llandudno.

Yn y digwyddiad gaeafol newydd hwn, bydd tân yn taflu golau ar y cyfan wrth i ni ddod ar draws bwystfilod chwedlonol a’r rheini sydd yn ceisio eu dal a’u dofi.

Mae straeon sydd wedi bod yn llechu yn y tywyllwch ers canrifoedd bellach yn dod yn fyw.

Dewch i weld y cyfan yn cael ei ddatgelu yn y digwyddiad cyfareddol hwn sy’n addas i’r teulu cyfan.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.facebook.com/DigwyddiadauConwy