Giselle

Vienna Festival Ballet yn cyflwyno

Giselle

Archebwch Nawr

Y bale rhamantus gorau, mae Giselle yn stori am ddiniweidrwydd, cariad, brad a gwallgofrwydd. Gyda cherddoriaeth gan un o gyfansoddwyr gorau’r 19eg ganrif, Adolphe Adam, a choreograffi gan y diweddar Nicholas Beriosoff, mae llwyfaniad traddodiadol VFB o’r campwaith hwn o 1841 yn symud oddi wrth optimistiaeth braf bywyd pentrefol eidylig Giselle i fyd etheraidd dirgelwch a pherygl.

Mae Giselle, merch gwerinwr, wedi disgyn mewn cariad â Iarll Albrecht, a ddywedodd wrthi mai pentrefwr ydoedd, o'r enw Loys. Mae canlyniadau dinistriol ar ôl iddi ddarganfod ei wir hunaniaeth.

Gyda chyfuniad o stori sy’n torri calon a choreograffi coeth, Giselle yw’r ffordd berffaith o ddarganfod bale clasurol.