Francis Rossi

Francis Rossi

I Talk Too Much

Archebwch nawr

Bydd y canwr roc chwedlonol Francis Rossi yn mynd ar y ffordd yng ngwanwyn 2020 ar daith lafar hir gyda 60 o ddyddiadau yn dilyn llwyddiant ei hunangofiant ‘I Talk Too Much’ a’i albwm canu gwlad sydd wedi cyrraedd rhif 1 y siartiau ‘We Talk Too Much’.

Bydd y sioe, sydd hefyd wedi’i henwi yn 'I Talk Too Much', yn dangos Rossi’n sgwrsio â’r awdur poblogaidd, Mick Wall. Bydd y seren Status Quo hefyd yn mynd â’i gitâr ar y llwyfan gan gynnig gwledd o gerddoriaeth acwstig i’r gynulleidfa.

Dywedodd Rossi: “Rwyf wedi dotio at lwyddiant fy nhaith lafar gyntaf. Mae’r lleoliadau wedi bod yn orlawn, a’r gynulleidfa wedi cael amser gwych, ac rwyf innau wedi mwynhau hefyd. Roedd y lleoliadau a’r gynulleidfa’n awyddus i ni fynd eto, felly rydym yn bodloni eu gorchmynion ac yn mynd ar daith yn y gwanwyn.