Fiddler On The Roof
-

Fiddler On The Roof

-
Archebwch Nawr

Mae PMA Theatre yn cyflwyno Fiddler On The Roof, cynnyrch meddwl y sêr Broadway Jerry Bock, Sheldon Harnick a Joseph Stein sydd wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ar draws y byd ers 1964.

Wedi’i lleoli ym mhentref Anatevka, mae’r stori yn canolbwyntio ar Tevye, dyn llefrith tlawd, a’i bum merch. Gyda chymorth y gymuned Iddewig glos a lliwgar, mae Tevye yn ceisio gwarchod ei ferched a’u magu gyda gwerthoedd traddodiadol yn wyneb moesau cymdeithasol sy’n newid a gwrth-semitiaeth Rwsia tsaraidd.

Yn llawn manylion hanesyddol ac ethnig, mae thema gyffredinol Fiddler On The Roof o draddodiad yn torri rhwystrau hil, dosbarth, cenedligrwydd a chrefydd, gan adael y gynulleidfa yn gollwng dagrau o lawenydd a thristwch.

Yn seiliedig ar storïau Sholem Aleichem a thrwy ganiatâd arbennig Arnold Perl. Llyfr gan Joseph Stein / Cerddoriaeth gan Jerry Bock / Geiriau gan Sheldon Harnick

Mae’r cynhyrchiad amatur hwn wedi’i gyflwyno drwy drefniant gyda’r Music Theatre International (Ewrop). Mae’r holl ddeunyddiau perfformio awdurdodedig hefyd wedi’u cyflenwi gan y MTI (www.mtishows.co.uk).