The Favourite
-

The Favourite

Tystysgrif 15

-
Archebwch Nawr

Mae Lloegr yn y ddeunawfed ganrif gynnar yn rhyfela gyda Ffrainc. Ond mae rasio hwyaid a bwyta pinafal yn dal i ffynnu. Mae’r Frenhines Anne (Olivia Colman) sydd ar yr orsedd, yn fregus ac mae ei ffrind agos, y Foneddiges Sarah (Rachel Weisz) yn llywodraethu’r wlad ar ei rhan wrth ofalu am salwch Anne a’i thymer dymhestlog.

Pan mae morwyn newydd, Abigail (Emma Stone) yn cyrraedd, mae hi'n swyno Sarah. Daw Abigail dan adain Sarah ac mae Abigail yn gweld cyfle i ddychwelyd i’w gwreiddiau aristocrataidd. Wrth i wleidyddiaeth y rhyfel fynd ag amser Sarah, mae Abigail yn camu i’r adwy fel cyfaill i’r Frenhines.

Mae'r cyfeillgarwch yn rhoi cyfle iddi gyflawni ei huchelgais ac ni fydd unrhyw ferch, dyn, gwleidyddiaeth na chwningen yn ei rhwystro.

Mae The Favourite wedi cael ei henwebu am 12 gwobr BAFTA.

Gydag is-deitlau ar 12 Chwefror, 7.30pm