Everybody's Talking About Jamie

Everybody's Talking About Jamie

Archebwch Nawr

Dyma i chi sioe gerdd bum seren newydd. Mae’r sioe Everybody’s Talking About Jamie wedi’i hysbrydoli gan stori wir ac yn berffaith ar gyfer cynulleidfaoedd ein hoes.

Mae Jamie New yn 16 mlwydd oed ac yn byw ar ystâd o dai Cyngor yn Sheffield. Nid yw Jamie yr un fath â phawb arall. Mae’n siŵr o serennu.

Gyda chefnogaeth ei fam a’i ffrindiau, mae Jamie yn llwyddo i oresgyn anfantais a’r bwlïaid a chamu allan o’r tywyllwch i olau llachar y llwyfan.

Mae John McCrea, Josie Walker, Tamsin Carroll, Shobna Gulati, Lucie Shorthouse a Phil Nichol yn arwain cast o 24 a band 8 offeryn a fydd yn siŵr o’ch ‘hudo ar daith yn llawn drygioni, cynhesrwydd a hwyl’ (Financial Times).

Gyda ‘chaneuon i gyffroi cynulleidfa’ (The Times) gan y canwr-gyfansoddwr Dan Gillespie Sells, o’r grŵp The Feeling, a llyfr ‘hynod ddoniol’ a geiriau bachog (Whatsonstage), gan yr ysgrifennwr Tom MacRae, mae’r sioe gerdd ffraeth hon wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd.

Ffilmwyd Everybody’s Talking About Jamie, sydd bellach wedi ennill 3 gwobr WhatsOnStage ac wedi’i henwebu am 5 Gwobr Olivier, yn fyw yn Theatr yr Apollo, Shaftesbury Avenue, Llundain yn arbennig ar gyfer sinemâu.