Ensemble Cymru
-

Cyngerdd Bore Coffi gydag

Ensemble Cymru

Taith y Pen-blwydd

-
Archebwch Nawr

Bydd ensemble cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn nodi ei ben-blwydd yn 15 oed gyda chyngerdd arbennig ac estynedig yn Venue Cymru yr hydref hwn.  Daw cerddorion o’r radd flaenaf sy'n angerddol dros rannu cerddoriaeth siambr brin o Gymru a gweddill y byd at ei gilydd.

Bydd Ensemble Cymru yn tynnu sylw at gyfansoddwyr Cymreig gyda pherfformiad o ‘Not the Stillness’ gan John Metcalf a gwaith cyfansoddwraig newydd ifanc o Gymru, Claire Roberts. Mae’n gyfle prin hefyd i glywed perfformiad byw o Gerddoriaeth Siambr Rhif 1 Martinů sy’n gyfuniad anghyffredin o delyn a phiano.

Y Rhaglen (mis Tachwedd)

Cerddoriaeth i ffliwt, clarinét, telyn, piano, ffidil, fiola a soddgrwth.

Cerddoriaeth Siambr Rhif 1 – Bohuslav Martinů

Pedwarawd Piano yn A leiaf – Gustav Mahler

Concert a Cinq – Joseph Jongen

Not the Stillness – John Metcalf

Block – Claire Roberts