The Emoji Movie
-

The Emoji Movie

Tystysgrif U

-
Archebwch Nawr

Mae The Emoji Movie yn mynd â chi i’r byd cudd a dirgel sydd y tu mewn i’ch ffôn clyfar. Yn llechu yn yr ap negeseuon mae Textopolis, dinas brysur lle mae pob un o’ch hoff emojis yn byw mewn gobaith y bydd defnyddiwr y ffôn yn eu dewis nhw.

Yn y byd hwn, un ystum sydd gan bob emoji ar ei wyneb – ar wahân i Gene (T.J. Miller), emoji bywiog a gafodd ei eni heb hidlydd ac sy’n llawn gwahanol ystumiau. Yn benderfynol o fod yn ‘normal’ fel yr emojis eraill, mae Gene yn gofyn am help llaw gan ei ffrind gorau, Hi-5 (James Corden) a’r emoji sy’n enwog am dorri codau, Jailbreak (Anna Faris).

Gyda’i gilydd, maent yn mynd ar antur ‘ap-hygoel’ drwy’r apiau ar y ffôn; pob un gyda’i fyd gwyllt, llawn hwyl, er mwyn dod o hyd i’r Cod a fydd yn trwsio Gene. Ond pan mae perygl mwy yn bygwth y ffôn, mae dyfodol pob emoji’n dibynnu ar y tri ffrind annisgwyl yma sy’n gorfod achub y byd cyn iddo gael ei ddileu am byth.