Dumbo
-

Dumbo

Cert PG

-
Archebwch Nawr

Mae’r perchennog syrcas Max Medici yn troi at yr hen seren Holt Farrier a’i blant Milly a Joe i ofalu am eliffant newydd-anedig, ac mae ei glustiau enfawr yn ei wneud yn dipyn o destun sbort yn y syrcas sydd eisoes mewn trafferth.

Ond pan maen nhw’n darganfod y gall Dumbo hedfan, mae’r syrcas yn dychwelyd i boblogrwydd, gan ddenu’r entrepreneur perswadiol V.A. Vandevere, sy’n recriwtio'r anifail croendew rhyfedd i’w fenter adloniant newydd, fawreddog, Dreamland.

Mae Dumbo yn codi i uchelfannau newydd wrth ymyl yr artist acrobataidd dymunol a thrawiadol, Colette Marchant, nes bod Holt yn darganfod fod Dreamland yn llawn cyfrinachau tywyll o dan yr wyneb sgleiniog.

CAST: Colin Farrell, Michael Keaton, Danny Devito, Eva Green, Sharon Rooney