The Dreamboys

The Dreamboys

Archebwch Nawr

Mae’r Dreamboys, y noson allan i ferched enwocaf yn y DU, yn eu holau ac yn fwy chwilboeth nac erioed gyda’u sioe newydd sbon a thaith o’r DU ar gyfer 2019.

Does dim amheuaeth nad y Dreamboys yw’r sioe enwocaf a’r mwyaf llwyddiannus o’i bath yn y DU erioed. Dyma sioe sydd wedi ei chreu i gymryd eich gwynt, ac sydd wedi ei deilwra’n berffaith ar gyfer partïon plu, partïon pen-blwydd, a nosweithiau allan i’r merched gyda’ch holl ffrindiau.

 hwythau wedi ymddangos fel gwesteion ar rai o sioeau teledu amlycaf y DU, megis yr X Factor, Britain’s Got Talent, Celebrity Big Brother, Loose Women, This Morning, Geordie Shore a The Only Way Is Essex, yn ogystal a chynnal teithiau byd eang lle’r oedd pob tocyn wedi gwerthu, does ryfedd mai’r Dreamboys yw’r unig sioe o’i bath erioed i fod â'r ffasiwn fri ac enwogrwydd yn gysylltiedig â hi.

Os yn chwilio am noson allan i’r merched sydd gyda’r gorau yn y DU, chewch chi ddim sy’n well na’r hyncs anhygoel hyn! Gyda’u sioe egnïol sy’n parhau am ddwy awr o’i dechrau hyd ei diwedd, bydd y hogiau hyn yn eich gadael yn crefu am fwy – yn llythrennol.

Archebwch eich tocynnau rŵan – cyn iddi fynd yn rhy hwyr.