Cynadleddau a Chyfarfodydd

Mae Llandudno wedi bod yn gartref i gynadleddau cymdeithasau ers dros ganrif, ac yn Venue Cymru rydym yn buddsoddi’n barhaus er mwyn sicrhau fod ein cyfleusterau a’n timau yn gallu cwrdd â’ch holl anghenion ar gyfer 2 neu 1500 o gynadleddwyr.

Mae cydweithio â chleientiaid, trefnwyr cynadleddau proffesiynol, ac asiantaethau o’r sectorau corfforaethol a chyhoeddus, a’r sector cymdeithasau, yn golygu fod ein Rheolwyr Cyfrifon yn deall y gwahaniaethau bychain yn nisgwyliadau cleientiaid a chynadleddwyr fel ei gilydd.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event