Mae Cylch Stori yn dod â phlant 7 - 11 oed at ei gilydd i gael profiad o adrodd straeon trwy gemau, chwarae rôl - celf a symudiad.
Ym mhob sesiwn, mae cyfle i blant glywed adroddwr stori proffesiynol yn adrodd straeon o Fythau a Chwedlau, ac rydym hefyd yn croesawu aelodau i rannu stori, cân neu joc eu hunain, cyn paratoi rhywbeth newydd i rannu gyda’u rhieni a’u gwarcheidwaid.
“Fy hoff Glwb!” Tilly, 10 oed.
“Adrodd Straeon yw o bosib y rhan pwysicaf o fy mywyd, mae wedi fy helpu i ddatblygu fy nghreadigrwydd a rhoi’r hyder i mi ffynnu yn fy ngroen fy hun.” Ffion Phillips, Storïwr Ifanc Cymru 21-22
Mae'r grwp yma yn rhan o'n rhaglen Creu Conwy Ifanc.