Crazy For You
-

Crazy For You

-
Archebwch Nawr

Yn llawn egni ac yn gampus gyfareddol, cynhyrchiad cymeradwy Watermill Theatre o Crazy for You yw’r sioe gerdd hapusaf erioed. Yn chwarae’r brif ran mae enillydd Strictly Come Dancing Tom Chambers, a Charlotte Wakefield fel Polly, mae’r comedi rhamantus llwyddiannus hwn yn cynnwys sgôr anhygoel gan y brodyr Gershwin.

Mae Crazy For You yn adrodd stori gariad Bobby, mab teulu bancio cyfoethog o Efrog Newydd ac yn ddawnsiwr rhwystredig ar Broadway, a Polly, merch perchennog theatr sydd yn mynd â’i phen iddi yn Deadrock, Nevada. Wedi’i anfon i gau’r theatr, mae Bobby yn syrthio mewn cariad â Polly, ac yn rhith gŵr cyfoethog o Hwngari, mae’n penderfynu achub y theatr trwy lwyfannu sioe.

Dryswch am bwy yw pobl, tor-calon, hapusrwydd a gwledd o ganeuon cofiadwy, gan gynnwys I Got Rhythm, They Can’t Take That Away From Me, Nice Work If You Can Get It ac Embraceable You all, mae’r cyfan yn ymddangos yn y dathliad gwych hwn o sioeau cerdd Broadway.

"Irresistible, irrepressible and inventive” ★★★★★

Mark Shenton, The Stage

“A delight” ★★★★

The Times