Cinderella
-

Cinderella

Mam-ddewines holl bantomeimau’r byd

-
Archebwch Nawr

Fe fyddwch chi i gyd ar eich ffordd i’r Ddawns fawreddog ym mhantomeim teuluol mwyaf trawiadol Llandudno – Cinderella, mam-ddewines holl bantomeimau’r byd!

Mae sioe eleni yn un y mae’n rhaid ei gweld, gyda Tom Parker o The Wanted yn chwarae rhan y golygus Dywysog Charming, ochr yn ochr â’r gŵr doniol Herbie Adams fel Buttons, Natalie Winsor – actores prif rannau yn rhai o sioeau’r West End – fel y Ddewines Dda, a’r tafleisydd digrif Dawson Chance fel y Barwn Hardup mewn sioe sy’n llawn at ei hymylon o gerddoriaeth, chwerthin, effeithiau arbennig a llond coets o gyfranogiad cynulleidfaol.

Mae’r cloc yn tician ... archebwch eich tocynnau i’r Ddawns heddiw!

Behind the Scenes (Photoshoot)