Cat on a Hot Tin Roof

Y Theatr Genedlaethol yn fyw

Cat on a Hot Tin Roof

Tystysgrif 15

Archebwch Nawr

Gan Tennessee Williams

Mae campwaith yr ugeinfed ganrif Tennessee Williams Cat on a Hot Tin Roof wedi cael ei chwarae am gyfnod cyfyngedig yn y West End yn Llundain yn 2017. Yn dilyn cynhyrchiad llwyddiannus A Streetcar Named Desire, mae cynhyrchiad Benedict Andrews yn ôl New York Times yn ‘thrilling revival’ yn serennu Sienna Miller, ynghyd â Jack O’Connell a Colm Meaney.

Ar noson agerddog ym Mississippi, bu i deulu Deheuol ymgasglu yn eu planhigfa cotwm i ddathlu pen-blwydd Big Daddy. Mae’r gwres poeth bron mor ormesol â’r celwyddau y maent yn ei ddweud. Brick a Maggie yn dawnsio o amgylch y cyfrinachau a thensiynau rhywiol sydd yn bygwth eu priodas. Gyda dyfodol y teulu yn y fantol, pa fersiwn o’r gwir sydd yn real- a pha un fydd yn ennill?

Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys noethni.