Carmen
-

Welsh National Opera

Carmen

Bizet

-
Archebwch Nawr

Ni all yr un dyn wrthsefyll swynion hudoles fwyaf y byd opera, Carmen. Yn ddibryder ac yn llawn bywyd, mae hi'n benderfynol o gadw ei hannibyniaeth, felly pan mae hi'n swyno'r milwr, Don José sy'n aberthu ei hen fywyd iddi, nid yw hi wedi paratoi ar gyfer y digwyddiadau a fydd yn datblygu. Wedi diflasu, mae hi'n troi ei sylw at y golygus Escamillo, ac mae cenfigen Don José yn peri diweddglo cyffrous.

Bydd cynhyrchiad newydd Jo Davies, sydd wedi ei osod yn y gorffennol diweddar, yn cyflwyno'r holl angerdd a drama sy'n ddisgwyliedig o'r opera eiconig hon. Mae cerddoriaeth hudolus Bizet, o'r enwog Toreador Song i Habanera pryfoclyd Carmen, yn datgelu emosiwn y cymeriadau i greu tensiwn a fydd yn eich cadw ar flaen eich sedd.

Cenir yn Ffrangeg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg.

wno.org.uk/carmen | #WNOcarmen