Call Me By Your Name

Noson Ffilm Rialto

Call Me By Your Name

Tystysgrif 15

Archebwch Nawr

Yn haf 1983, yng ngogledd yr Eidal, mae Elio Perlman, (Timothée Chalamet) Americanwr 17 oed yn treulio ei ddyddiau yn fila 17eg ganrif ei deulu yn trawsgrifio cerddoriaeth yn ddiog ac yn fflyrtio gyda’i ffrind Marzia (Esther Garrel). Un diwrnod, mae Oliver (Armie Hammer), myfyriwr graddedig 24 oed sy’n gweithio ar ei ddoethuriaeth yn cyrraedd fel yr intern haf blynyddol sydd â’r dasg o helpu tad Elio (Michael Stuhlbarg), athro blaenllaw sy’n arbenigo mewn diwylliant Groegaidd – Rufeinig. Yn fuan, mae Elio ac Oliver yn darganfod haf a fydd yn newid eu bywydau am byth.

Mae CALL ME BY YOUR NAME, a gyfarwyddwyd gan Luca Guadagnino a’i ysgrifennu gan James Ivory, yn seiliedig ar y nofel gan André Aciman.

CAST: Armie Hammer, Timothée Chalamet, Michael Stuhlbarg,Amira Casar, Esther Garrel, Victoire Du Bois