Brainiac Live

Brainiac Live

Archebwch Nawr

Gwisgwch eich gogls diogelwch, mae sioe orau a mwyaf tanllyd y byd Gwyddoniaeth, Brainiac Live! yn ôl!

Yn fwy drygionus nag erioed o’r blaen, bydd Brainiac Live! yn mynd â chi ar daith anhygoel trwy fyd o bethau rhyfedd a syfrdanol. Gallwch ddisgwyl gweld biniau’n ffrwydro, microdonnau’n mynd ar dân a llawer o styntiau mentrus yn fyw!

Gwyliwch o'ch seddi diogel wrth i’r Brainiacs dyrchu'n ddi-ofn i ryfeddodau gwyddoniaeth a gwneud pob dim ar y llwyfan rydych chi ofn eu gwneud gartref!