Bootleg Beatles

Bootleg Beatles

On The Road

Archebwch nawr

I ddathlu 40 mlynedd ers eu hymddangosiad cyntaf ar lwyfan y West End eleni yn ‘Beatlemania,’ mae’r band teyrnged i’r Beatles yn parhau i ddenu sylw wrth iddynt ail-greu rhai o glasuron gorau ein hamser.

Gan olrhain taith y Fab Four drwy’r chwedegau, mae yma bopeth – y gwisgoedd, yr offerynnau, o dynnu coes ffraeth ‘Sgows’ i’w dynwared lleisiol i’r cywair perffaith.

Gydag ychydig o gymorth gan eu hensemble cerddorfaol a set arbennig i nodi pen-blwydd Abbey Road yn 50, mae hon yn sioe ysblennydd na ddylai unrhyw ‘Beatlemaniac’ o unrhyw oed ei methu.

“Entirely convincing.”

The Times

“A joy to behold”

The Telegraph