Mae Bohemian Rhapsody yn ddathliad mawr o Queen, eu cerddoriaeth a'u prif ganwr eithriadol, Freddie Mercury.
Mae’r ffilm yn olrhain enwogrwydd sydyn y band drwy eu caneuon eiconig a’u sŵn chwyldroadol. Maent yn profi mwy o lwyddiant nag unrhyw un a ddaeth o’u blaenau, ond mewn tro annisgwyl ar fyd, mae Freddie (Rami Malek), dan ddylanwadau tywyllach, yn gadael Queen i ddilyn ei yrfa unigol.
Ar ôl dioddef llawer heb gydweithrediad Queen, mae Freddie yn llwyddo i ailuno gyda'r band mewn pryd ar gyfer Live Aid. Gan wynebu diagnosis AIDS diweddar yn ddewr, mae Freddie yn arwain y band yn un o’r perfformiadau cerddoriaeth roc gorau erioed.
Mae hanes Queen yn dal i ysbrydoli rhoi ar y cyrion, breuddwydwyr a'r rhai sy'n caru cerddoriaeth hyd heddiw.