Blood Brothers
-

Blood Brothers

-
Archebwch Nawr

Mae’r chwedlonol Blood Brothers o waith Willy Russell yn adrodd hanes cyfareddol ac emosiynol efeilliaid sydd – wedi cael eu gwahanu ar eu genedigaeth – yn tyfu'n oedolion dan amgylchiadau tra gwahanol, gyda chanlyniadau trasig yn sgil eu haduniad.

Ychydig iawn o sioeau cerdd sydd wedi derbyn y fath ganmoliaeth â’r sioe aml-wobrwyedig hon. Cafwyd dros 10,000 o berfformiadau o gynhyrchiad Bill Kenwright ohoni yn y West End yn Llundain, ac mae’n un o’r unig dair sioe gerdd erioed i fynd heibio’r garreg filltir honno. Caiff ei hadnabod yn annwyl fel ‘the Standing Ovation Musical’ am ei fod yn ddieithriad yn “cael y gynulleidfa ar eu traed, yn bloeddio eu cymeradwyaeth” (y Daily Mail).  Mae’r sgôr gerddorol wych yn cynnwys 'Bright New Day’, ‘Marilyn Monroe’, a’r ffefryn emosiynol, ‘Tell Me Its Not True’.