Billy Ocean

Billy Ocean

Gwerthu allan

MAE TAITH  Y DU ‘THE BEST OF BILLY OCEAN’ AR EI FFORDD I LANDUDNO – DYDDIADAU YCHWANEGOL AR GYFER 2019

Yn dilyn ei daith y llynedd a werthodd allan mae eicon Soul Prydain, Billy Ocean wedi cyhoeddi taith anferth o’r DU ar gyfer mis Tachwedd/Rhagfyr 2018 lle bydd yn perfformio ei ganeuon mwyaf poblogaidd a’i ganeuon gorau. Oherwydd y galw am fwy o docynnau mae naw dyddiad newydd wedi eu hychwanegu ar gyfer y daith yn 2019 sy’n cynnwys Venue Cymru, Llandudno ym mis Mawrth 2019.

Billy Ocean yw’r seren recordio du sydd wedi gwerthu fwyaf ym Mhrydain ac wedi gwerthu dros 30 miliwn o recordiau drwy gydol ei fywyd hyd yn hyn. Wrth gyflawni llwyddiant ysgubol fel artist a chyfansoddwr caneuon, mae Billy wedi casglu nifer o recordiau Aur a Phlatinwm ar draws y byd ac wedi cyrraedd y brig yn siartiau pop ar draws y byd yn cynnwys yr UDA, Awstralia, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, a’r DU.