Averting the Insect Apocalypse

The Lacey Lecture

Averting the Insect Apocalypse

Archebwch nawr

Rydym ymysg y 6ed difodiant mawr, gyda difodiant yn digwydd yn gynt nag unrhyw adeg arall yn ystod y 65 miliwn o flynyddoedd diwethaf.  Mae ‘Bioabundance’ yn dirywio, gydag astudiaethau diweddar yn dangos bod pryfed yn benodol yn diflannu'n gyflym.  Os yw'n parhau, bydd yn achosi canlyniadau difrifol ar gyfer dynol ryw a’n planed.

Bydd Dave Goulson yn egluro pam fod pryfed yn dirywio, ac yn awgrymu sut y dylem fynd i’r afael â’r argyfwng, yn gyntaf drwy drawsnewid ein gerddi yn hafan am oes, ac yn ail drwy newid y dulliau yr ydym yn eu defnyddio i dyfu bwyd.

 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event