An Audience with Simon Reeve

GCE / Giles Cooper Entertainment presents

An Audience with Simon Reeve

Book Now

Derbyniodd taith theatr Simon Reeve yn 2018 adolygiadau pum seren ar draws y DU, ac mae’r sioe wedi ei ymestyn i 2019 ar ôl galw mawr.

Mae’r sioe yn cynnwys yr anturiaethwr a chyflwynydd teithio BBC enwog yn adrodd straeon o dros 15 mlynedd o deithio i ardaloedd mwyaf anghysbell ac eithafol y byd. O gael ei hela gan fôr-ladron, i gael ei erlid gan y KGB a'i fygwth gan farwniaid Colombia, mae Simon Reeve wedi teithio drwy 120 o wledydd ac mae ei raglenni dogfen wedi gwerthu i dros 60 o wledydd ar draws y byd!

Mae ‘An Audience with Simon Reeve’ yn sioe ddiddorol ac addysgol, ond hefyd yn ysgytiol, ysbrydoledig a digrif. Mae’r sioe theatr yn cynnwys ffilmiau amryw gyfrwng a sesiwn holi ac ateb.

Peidiwch â cholli cyfle arbennig i weld Simon am y tro cyntaf yn fyw!