Art

Mae Black RAT Productions a Sefydliad Glowyr y Coed Duon yn cyflwyno cyd-gynhrychiad o

Art

Archebwch Nawr

Mae’r tîm tu ôl i One Man, Two Guvnors a Loot yn cyflwyno’r campwaith o gomedi sydd wedi ennill gwobrau lu. Yn cynnwys sêr Black RAT, Gareth Bale (One Man, Two Guvnors, 39 Steps, Grav) Kieron Self (Rhaglen deledu BBC My Family, Neville’s Island a Bedroom Farce) a Richard Tunley (Bouncers, Bedroom Farce).

Mae Serge wedi prynu paentiad mawr gwyn am swm mawr o arian. Mae Marc yn casáu’r paentiad ac ni all gredu bod ei ffrind eisiau darn o gelf mor fodern. Mae ymdrechion Yvan i dawelu'r ddau yn aflwyddiannus ac yn arwain at ganlyniadau doniol iawn.

Y cwestiwn yw: Ydych chi’n driw i chi’ch hun? Neu’n ceisio’n rhy galed i blesio eich ffrindiau?

Tri dyn; un paentiad; trychineb mawr!

Rhagorol, doniol, difyrrus a chalonogol, mae ART yn ffenomenon. Ymhlith un o'r comedïau mwyaf llwyddiannus erioed.

 

  • Gan Yasmina Reza
  • Wedi’i gyfieithu gan Christopher Hampton
  • Wedi’i gyfarwyddo gan Richard Tunley
  • Wedi’i ddylunio gan Sean Crowley
  • Dyluniad Goleuadau gan Robin Bainbridge

 

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru