Ant Middleton

Ant Middleton

Mind Over Muscle

Archebwch Nawr

Mae Ant Middleton, sydd fwyaf adnabyddus fel Prif Hyfforddwr ar sioeau llwyddiannus Channel 4, SAS: Who Dares Wins, Mutiny ac Escape, wedi ychwanegu 6 dyddiad newydd i’w daith Mind Over Muscle ar gyfer Medi 2019 yn sgil galw aruthrol.

Bydd y sioe newydd sbon hon ar gyfer 2019 gan yr awdur sydd wedi bod yn rhif 1 yn rhestr y Sunday Times yn dod â’r ‘elfennau’ i’r gynulleidfa trwy oleuadau, sain a'r set. y sioe yn ail-greu’r cryfder meddyliol yr oedd Ant ei angen i gwblhau ei gyfres SAS ddiweddaraf a'i her enfawr i gyrraedd copa Everest. Yn ogystal â hynny, trwy’r cyfan, bydd Ant yn mynd â’r gynulleidfa ar siwrnai ysgogol o hunangymorth a hunan-ddarganfyddiad.

Meddai Ant: “Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau fy sioe newydd sbon yn 2019. Rwyf eisiau dod â’m profiadau diweddaraf yn fyw a dangos sut y gall cryfder meddyliol ein helpu i oroesi heriau sylweddol. Mae’r meddwl yn gryfach na’r cyhyrau, ac rwy’n addo mynd â chynulleidfaoedd ar siwrnai arbennig”