Annie
-

Annie

Craig Revel Horwood yn serennu

-
Archebwch Nawr

Daw’r cynhyrchiad enwog ANNIE i Landudno o West End, Llundain am un wythnos yn unig. Mae beirniad Strictly Come Dancing, Craig Revel Horwood yn serennu yn y ‘glorious revival’ (The Times) fel y Miss Hannigan ormesol!

Yn Efrog Newydd yng nghanol Y Dirwasgiad Mawr yn y 1930au, mae Annie fach annwyl a dewr yn cael ei gorfodi i fyw bywyd digalon yng nghartref plant amddifad Miss Hannigan. Ond daw tro ar fyd pan gaiff ei dewis i dreulio Nadolig hudolus gyda’r biliwnydd enwog, Oliver Warbucks. Yn y cyfamser, mae gan yr hen Miss Hannigan sbeitlyd syniadau eraill ac mae’n llunio cynllun i ddifetha ymgais Annie i ddod o hyd i’w theulu go iawn.....

Gyda llyfr a sgôr sydd wedi ennill Tony®, gan gynnwys y caneuon bythgofiadwy It’s The Hard-Knock Life, Easy Street, I Don’t Need Anything But You a Tomorrow, gallwch sicrhau y byddwch wrth eich bodd gyda’r sioe gerdd hon!

««««

The Times, Daily Telegraph, OK! Magazine, The Sun

‘Feel good escapist joy. Fun, riotous and heartfelt’ 

Radio Times