An American in Paris

An American in Paris

The Musical (wedi’i ffilmio’n fyw)

Archebwch Nawr

Sgrinio 

Mae’r sioe gerdd Broadway brydferth hon a fydd yn mynd â'ch anadl wedi ennill Gwobr Tony®. Cafodd ei ysbrydoli gan y ffilm a enillodd Oscar®, ac mae’n adrodd hanes darganfod cariad yn y ‘City of Light’. Yn cynnwys cerddoriaeth ysblennydd a geiriau George ac Ira Gershwin (yn cynnwys y caneuon poblogaidd ’S Wonderful ac I Got Rhythm), dyluniadau hardd, a choreograffi i fynd â’ch anadl. Mae wedi torri pob record gyda 28 o adolygiadau pum seren gan y beirniaid, mae An American in Paris yn dod o West End Llundain i Theatr Colwyn.

Mae Jerry Mulligan yn GI o America sy’n awyddus i lwyddo fel peintiwr mewn dinas sy'n sydyn yn llawn gobaith a phosibiliadau. Wedi iddo ddod ar draws dawnswraig ifanc hardd o’r enw Lise ar hap, mae strydoedd Paris yn dod yn gefnlen i ramant synhwyrus, fodern o gelf, cyfeillgarwch a chariad ar ôl y rhyfel...

Profwch y cynhyrchiad “truly ravishing” (The Guardian) hwn yng nghysur eich sinema leol.

Cast: Robert Fairchild, Leanne Cope