Aled Jones a Russell Watson ar eu Taith ‘Harmony’

Aled Jones a Russell Watson ar eu Taith ‘Harmony’

Gwerthu allan

Bydd Aled Jones a Russell Watson, dau o leisiau clasurol gorau'r byd, yn ymuno â'i gilydd ar y llwyfan ar eu taith gyntaf ar y cyd drwy’r DU ac Iwerddon yn ystod tymor yr hydref 2019.

Mae Aled a Russell wedi derbyn nifer fawr o wobrau, wedi torri recordiau o ran gwerthiannau a chael llwyddiant yn y siartiau. Cychwynnodd eu cyfeillgarwch bron i 20 mlynedd yn ôl. Mae eu camaraderie a’u gwerthfawrogiad o’i gilydd ar lefel broffesiynol yn golygu eu bod yn creu’r ddeuawd berffaith.