Aladdin
-

Aladdin

Tystysgrif PG

-
Ar werth yn fuan

Dyma addasiad actorion byw llawn cyffro ac egni o glasur animeiddio Disney, ‘Aladdin’, lle cawn glywed stori gyffrous am dlotyn dengar o’r enw Aladdin, Tywysoges ddewr a phenderfynol o’r enw Jasmine ac ysbryd mewn lamp a allai fod yn allweddol i ddyfodol y ddau.

Mae’r ffilm hon wedi cael ei chyfarwyddo gan Guy Ritchie ac mae’n arddangos ei ddawn hynod o greu antur cyflym ac angerddol yn ninas porthladd ffuglennol o’r enw Agrabah. Mae’r ffilm yn serennu Will Smith fel ysbryd y lamp; Mena Massoud fel Aladdin a Naomi Scott fel Jasmine, y dywysoges hardd a phenderfynol.