Partïon a Digwyddiadau Preifat

Mae ystafelloedd digwyddiadau Venue Cymru'n berffaith ar gyfer gwleddoedd priodas, partïon pen-blwydd, te angladd neu fedydd.

Mae bwyty Y Review yn creu amgylchedd rhagorol ar gyfer ciniawau ffurfiol ac achlysuron arbennig. Gyda seddau ar gyfer hyd at 70 o bobl, neu 90 yn sefyll gyda bwffe, mae'r golygfeydd trawiadol o'r môr yn darparu'r cefndir perffaith ar gyfer digwyddiad arbennig a chofiadwy.

Ar gyfer grwpiau mwy neu'r rhai sydd eisiau awyrgylch llai ffurfiol, mae bar a llawr dawnsio yn Ystafell Orme. Ar gael i hyd at 200 wledda, neu fwffe i hyd at 250, mae Ystafell Orme yn ddelfrydol ar gyfer partïon ac yn boblogaidd iawn ar gyfer gwleddoedd priodas a phartïon pen-blwydd.

Mae dros 20 ystafelloedd i'w gosod yn Venue Cymru ar gyfer rhwng 10 a 1000 o westeion, ac maent i gyd ar gael ar gyfer achlysuron preifat am brisiau rhesymol iawn. Am fwy o fanylion cysylltwch ag aelod cyfeillgar o'n tîm Cynadleddau a Digwyddiadau am ddyfynbris yn rhad ac am ddim heb unrhyw ymrwymiad.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event