Yn Adran Hon ...
Venue Cymru
Y Promenâd
Llandudno
LL30 1BB
Archebu eich tocynnau arlein neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01492 872000
Mynediad Cyfartal
Y Gwasanaethau sy'n cael eu darparu
Mae Venue Cymru yn cynnig amrediad o wasanaethau er mwyn cynorthwyo cwsmeriaid anabl yn unol'n 'Polisi Mynediad Cyfartal'. Mae'r rhain yn cynnwys tocynnau am bris gostyngedig ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a chwsmeriaid anabl eraill dan y cynllun galluogwr di-d'l. Mae disgrifiad llawn o'n gwasanaethau wedi eu nodi isod ond os oes gennych unrhyw ofynion arbennig, dywedwch wrth staff y swyddfa docynnau neu anfonwch e-bost at boxoffice@venuecymru.co.uk wrth archebu eich tocynnau. Neu, cysylltwch'r rheolwr ar ddyletswydd ar, i chi gyrraedd y theatr a bydd ef/hi yn fodlon iawn eich helpu.
Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn
- Mannau parcio wedi eu neilltuo gan roi mynediad hwylus i'r theatr.
- Drws llydan yn y fynedfa ar lefel y stryd (mynedfa'r swyddfa docynnau).
- Cownter isel yn y swyddfa docynnau.
- Toiled arbennig ar gyfer dynion a merched ar y llawr isaf.
Pobl Ddall / Pobl sydd â Nam ar eu Golwg
- Mae croeso i gwn gwaith/tywys yn y theatr a'r awditoriwm a gellir eu gadael gyda'r rheolwr ar ddyletswydd yn ystod y perfformiad. Ffoniwch am fwy o fanylion neu gymorth. Rhif ffôn: +44 (0) 1492 879771 E-bost: info@venuecymru.co.uk
- Fersiynau print bras (Pwynt 20), CD a Braille o'r rhaglenni digwyddiadau. Ffoniwch er mwyn ychwanegu eich enw at y rhestr bost. Rhif ffôn: +44 (0) 1492 879771
- Cynigir disgrifiadau Awdio o rai perfformiadau wythnosol/sefydlog. Ffoniwch i gael manylion pellach neu i ychwanegu eich enw at y rhestr bost. Rhif ffôn: +44 (0) 1492 879771
- Gellir trefnu teithiau 'Teimlo / Ymgyfarwyddo'.
- Toiled arbennig ar gyfer dynion a merched ar y llawr isaf.
Pobl Fyddar / Pobl sydd nam ar eu Clyw
- Gwasanaeth archebu ar-lein ar gyfer yr holl sioeau.
- Gwasanaeth archebu anghenion arbennig ar e-bost/drwy'r post: boxoffice@venuecymru.co.uk
- Croesewir cwn gwaith/tywys yn y theatr a'r awditoriwm a gellir eu gadael gyda'r rheolwr ar ddyletswydd yn ystod y perfformiad. Ffoniwch am fwy o fanylion neu gymorth. Rhif ffôn: +44 (0) 1492 879771 E-bost: info@venuecymru.co.uk
- System gylch is-goch. Dywedwch wrth y rheolwr ar ddyletswydd ar, i chi gyrraedd y theatr a bydd ef/hi yn medru esbonio wrthych sut i ddefnyddio'r system.
- Cynigir gwasanaeth arwyddo/testun ar gyfer rhai perfformiadau wythnosol/sefydlog. Ffoniwch i gael manylion pellach neu er mwyn ychwanegu eich enw at y rhestr bost. Rhif ffôn: +44 (0) 1492 879771