Rumours of Fleetwood Mac

Rumours of Fleetwood Mac

Mewn cyngerdd byw

Archebwch nawr

Mae Rumours of Fleetwood Mac, band teyrnged gorau’r byd i Fleetwood Mac, yn dychwelyd i’r llwyfan yn 2020 gyda sioe newydd sbon sy’n dathlu’r gorau o Fleetwood Mac, gan gynnwys set canu’r felan arbennig iawn sy’n talu teyrnged i gyfnod yr anhygoel Peter Green yn Fleetwood Mac.

Gan sianelu ysbryd Fleetwood Mac ar eu gorau, mae Rumours of Fleetwood Mac yn cynnig cyfle unigryw i gefnogwyr hen a newydd ailddarganfod y caneuon a’r perfformiadau sydd wedi sicrhau statws Fleetwood Mac fel un o’r bandiau mwyaf poblogaidd erioed.

Wedi’u cymeradwyo’n bersonol gan aelod sefydlol Fleetwood Mac, Mick Fleetwood, Rumours of Fleetwood Mac yw’r deyrnged eithaf i un o’r grwpiau roc a rôl mwyaf nodedig.