Respect - The Aretha Franklin Songbook

Respect - The Aretha Franklin Songbook

Archebwch nawr

Mae RESPECT - The Aretha Franklin Songbook yn gyngerdd byw anhygoel sy’n talu teyrnged i Frenhines Canu ‘Soul’! Bydd y cantorion arbennig, Cleopatra Higgins, Tanya Edwards a Cleo Stewart yn serennu yn y cyngerdd, ynghyd â'r Urban Soul Band and Gospel Choir.

Bydd y cynhyrchiad dwy awr sydd wedi’i gyfarwyddo gan Racky Plews (Footloose, American Idiot) yn tywys y gynulleidfa ar daith gerddorol gan bwysleisio neges bwerus  a dathlu bywyd a chaneuon mwyaf poblogaidd Aretha Franklin, gan gynnwys Think, I Say A Little Prayer, Son Of A Preacher Man, Bridge Over Troubled Water, Natural Woman a llawer mwy!

www.respectaretha.com | Facebook: @RespectAretha | Instagram: @RespectAretha | Twitter: @RespectAretha