Queen Extravaganza

Queen Extravaganza

Archebwch Nawr

Mae Queen Extravaganza, band teyrnged swyddogol Queen, a gynhyrchwyd gan Roger Taylor a Brian May, yn dychwelyd i’r DU yn 2023, yn dilyn sioeau a werthodd pob tocyn ar draws y byd.

Mae’r band, a ddechreuodd fynd a'r sioe ar daith yn ôl yn 2012, yn cynnwys cast o gerddorion dawnus, a ddewiswyd gan Roger Taylor a Brian May eu hunain.  Mae Queen Extravaganza yn adnabyddus am fynd ar daith o amgylch yr UDA, Canada, Awstralia, Hong Kong, Brasil ac Ewrop, ac wedi ennill cariad a pharch eu dilynwyr, sy’n prysur dyfu mewn niferoedd. Yn y sioe wefreiddiol hon, bydd y cerddorion dawnus yn chwarae’r gerddoriaeth yn berffaith, ac ar rai achlysuron yn well na Queen eu hunain.

Mae’r sioe 90 munud hon yn cynnwys dros 20 o glasuron Queen, o ganeuon mwyaf enwog y band:  Bohemian Rhapsody, Another One Bites the Dust, Crazy Little Thing Called Love, Under Pressure, We Will Rock You, We Are the Champions, A Kind of Magic, Radio Ga Ga, Somebody to Love and Killer Queen yn ogystal â ffefrynnau eraill.  "It's our own official tribute band", meddai Roger Taylor.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event