The Nutcracker

Tŷ Opera a Bale Gwladol Rwsia yn cyflwyno

The Nutcracker

Baled helaeth ar gyfer tymor y Nadolig

Archebwch nawr

Cerddoriaeth gan Pyotr I. Tchaikovsky | Yn cynnwys Cerddorfa fyw gyda dros 30 o gerddorion

Ni fyddai'r Nadolig yr un fath heb daith i'r theatr leol i weld cynhyrchiad disglair o’r bale enwocaf yn y byd - The Nutcracker

Yn draddodiadol, mae Tŷ Opera a Bale Gwladol Rwsia yn dychwelyd ar gyfer eu taith bale fywiog a swynol blynyddol o amgylch y DU. Eleni maen nhw’n cyflwyno Theatr Bale Wladol Mariisky o ganolbarth Rwsia i chi.

Eira mân, melysion, tywysogion, hud a chariad, dyma rai o'r elfennau sy’n dod at ei gilydd yng nghynhyrchiad y cwmni Rwsiaidd poblogaidd hwn. Dyma gynhyrchiad bale sy’n addas i bawb, mae’n llawn cerddoriaeth gyfarwydd megis Waltz of the Flowers  a Dance of the Sugar Plum Fairy.

Mae The Nutcracker bob amser yn ffefryn Nadoligaidd!

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.russian-state-ballet.co.uk