Chicago
-

Chicago

-
Archebwch nawr

Mae CHICACO,the sexiext musical ever” (Metro) yn ôl yn Venue Cymru yn 2025.

“Murder, greed, corruption, exploitation, adultery and treachery…all those things we hold near and dear to our hearts” A dyna ddechrau’r sioe gerdd sydd wedi ennill llu o wobrau, CHICAGO.

Wedi'i gosod yng nghanol afradlondeb disgleirwych y 1920au, mae CHICAGO yn adrodd hanes Roxie Hart, gwraig tŷ a dawnswraig clwb nos sy'n llofruddio ei chariad dirgel ar ôl iddo fygwth ei gadael. Yn daer eisiau osgoi cael ei chanfod yn euog, mae’n twyllo’r cyhoedd, y wasg a’i chyd-garcharor, Velma Kelly, trwy gyflogi cyfreithiwr troseddol mwyaf deheuig Chicago i drawsnewid ei throsedd maleisus yn gawod o benawdau tudalen blaen syfrdanol.

Wedi’i greu gan dalentau’r byd theatr John Kander, Fred Ebb a’r coregoraffwr enwog Bob Fosse, mae sgôr sasi a rhywiol CHICAGO gyda chaneuon anhygoel un ar ôl y llall yn cynnwys “Razzle Dazzle”, “Cell Block Tango” ac “All That Jazz”. Gyda 6 Gwobr Tony, 2 Wobr Olivier, gwobr Grammy® a miloedd ar eu traed yn clapio, yn ôl y Daily Telegraph mae CHICAGO yn “SUPERB”.

Peidiwch â cholli’r cyfle, archebwch rŵan!   Byddai’n drosedd peidio...

* Gallai’r cast ac amserlen y perfformiadau newid yn ddirybudd.

‘STILL THE SEXIEST MOST SENSATIONAL MUSICAL’

 

SUNDAY EXPRESS
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event