John Bishop

John Bishop

Warm-Up

Gwerthu allan

Mae’r digrifwr o fri, John Bishop, yn dod i Venue Cymru i gynhesu fyny yn barod ar gyfer ei sioe newydd sbon!

Mae John yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ei antur newydd. Hon fydd ei wythfed sioe stand-yp, a’r gorau eto yn ôl pob sôn!! Ac mae o ar dân eisiau cychwyn ar ei daith.   

Mae John wedi cael llwyddiant aruthrol gyda nifer o’i sioeau comedi, adloniant a dogfen, gan gynnwys ‘John Bishop’s Australia’ (BBC1), ‘John Bishop’s Britain’ (BBC1); ‘John Bishop’s Only Joking’ (Sky1); ‘The John Bishop Show’ (BBC1); ‘The John Bishop Christmas Show’ (BBC1) a ‘John Bishop’s Gorilla Adventure’ (ITV1).  Mae ei raglenni diweddar yn cynnwys ‘John Bishop’s Ireland’ ar gyfer ITV1 a phedair cyfres o ‘John Bishop: In Conversation With…’ lle mae o’n sgwrsio gyda rhai o enwogion mwyaf y DU.

Mae John hefyd wedi cyflwyno The Royal Variety Performance.

‘A gloriously gifted storyteller’ ★★★★ - Daily Telegraph

‘His Supersonic show easily confirms that John Bishop has finally taken on the mantle of Britain’s top comic’ ★★★★ - Daily Mirror