Il trovatore
-

Welsh National Opera

Il trovatore

Verdi

-
Archebwch Nawr

Ar ôl cael ei chyhuddo o felltithio un o efeilliaid Iarll di Luna, mae merch sipsi’n cael ei llosgi'n fyw. Mae ei merch, Azucena, yn addo talu'r pwyth yn ôl am ei marwolaeth ac yn ymddwyn yn fyrbwyll, gyda chanlyniadau trasig. 15 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r Iarll di Luna newydd yn canlyn Leonora, ond mae hithau mewn cariad â'r trwbadŵr dirgel, Manrico. Daw'r triongl cariad yn we ddryslyd o dwyll, wrth i'r stori chwarae allan trwy aberth, cenfigen, llofruddiaeth a dial.

Yn un o'r operâu gorau erioed, mae Il trovatore (‘Y Trwbadôr’) yn cynnwys sgôr fywiog sy’n cynnwys yr hynod adnabyddus, Anvil Chorus. Bydd Mary Elizabeth Williams yn dychwelyd i WNO fel Leonora yng nghynhyrchiad oesol WNO, a gafodd ei berfformio diwethaf yn 2011.

wno.org.uk/trovatore | #WNOtrovatore