Ydych chi erioed wedi meddwl am y gofod? Wedi'ch syfrdanu gan blanedau? Busneslyd am nebulae? Yn gegrwth gyda’r galaethau?
Bydd yr Athro Andy Newsam wrth law i ateb eich cwestiynau am y bydysawd a thrafod dirgelion y gofod, felly galwch heibio a dweud helo.
Sesiynau galw heibio rhyngweithiol gyda Thelesgop, jig-so y Lleuad a Chamera Thermol.