Everybody's Talking About Jamie
-

Everybody's Talking About Jamie

-
Archebwch nawr

Mae’r sioe gerdd lwyddiannus yn dod i Venue Cymru, gyda seren y West End, Layton Williams (*) a chymeriad poblogaidd Eastenders, Shane Richie fel Hugo/Loco Chanelle, ill dau’n ailgydio yn eu rolau o gynhyrchiad mawr ei glod y West End.

Doniol, ardderchog ac ysbrydoledig, mae'r sioe hon yn gyffro cerddorol i'r teulu cyfan - peidiwch â cholli'ch cyfle i'w gweld!

Mae Jamie New yn un ar bymtheg oed ac yn byw ar stad gyngor yn Sheffield. Dydi Jamie ddim yn ffitio i mewn. Mae Jamie yn poeni am y dyfodol. Mae Jamie yn mynd i fod yn anhygoel.

Gyda chefnogaeth ei fam gariadus a gyda'i ffrindiau o'i gwmpas, mae Jamie yn goresgyn rhagfarn, yn trechu’r bwlis ac yn camu allan o’r tywyllwch i fynnu sylw.

Gyda sgôr wreiddiol llawn caneuon pop bachog gan brif ganwr a chyfansoddwr The Feeling, Dan Gillespie Sells a’r awdur Tom MacRae (Doctor Who), mae’r sioe gerdd newydd sbon hon yn siŵr o sicrhau bod pawb yn siarad am Jamie am flynyddoedd i ddod. Un ar bymtheg: ar ymyl posibilrwydd. Amser i wireddu’ch breuddwydion.

“I’ve loved my time in the West End but am beyond excited to be playing Jamie on tour! This will be my 6th tour and I can’t wait to come back to some of my favourite venues with this beautiful show. I hope you’ll welcome me back with open arms as we share this beautiful story and spread love across the U.K! See you’s soon...”

Layton Williams

“I had such a fantastic time playing Hugo/Loco Chanelle in Everybody’s Talking About Jamie in the West End, so when I was offered the chance to be involved in the touring production I jumped at the opportunity to get back into those heels! I believe this show has such an important message for younger and older generations I’m excited to be taking it to a larger audience around the UK.”

Shane Richie