Digwyddiadau Teithiau Opera Cenedlaethol Cymru
-

Digwyddiadau Teithiau Opera Cenedlaethol Cymru

-
Archebwch nawr

Coffi a chacen gyda pherfformiad anffurfiol gan Angela Simkin

30 Hydref 2019, 11am

Roedd y mezzo soprano Angela Simkin yn aelod o Raglen Artistiaid Ifanc Jette Parker o 2016-18, ac mae'n chwarae rhan Mercedes yng nghynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru o Carmen. Bydd ei pherfformiad yn Llandudno yn cynnwys Les Nuits d’été gan Berlioz.

Coffi a chacen gyda pherfformiad anffurfiol gan Rosie Biss

1 Tachwedd 2019, 11am

Yn ogystal â’i rôl fel Prif Cello gydag Opera Cenedlaethol Cymru, mae Rosie Biss yn mwynhau gyrfa brysur ac amrywiol fel cerddor siambr, unawdydd, prif gerddor gwadd ac athrawes. Yn ystod y perfformiad, bydd yn eich hudo gyda pherlau o’r arlwy cello, gan roi cipolwg i’w rôl o fewn y cwmni.

Coffi a chacen gyda pherfformiad anffurfiol gan Ross Ramgobin

6 Mawrth 2020, 11am

Cafodd y bariton o Brydain, Ross Ramgobin ei enwebu yng nghategori Artist Ifanc yng Ngwobrau Opera Rhyngwladol 2015, ac mae'n chwarae rhan Morales yng nghynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru o Carmen. Bydd ei berfformiad yn cynnwys detholiad o Ramantau angerddol Rachmaninoff, a Dichterliebe gan Schumann.