Der Rosenkavalier

Welsh National Opera

Der Rosenkavalier

Richard Strauss

Archebwch Nawr

Gyda chyfoeth a chariad ifanc – Octavian – i’w gadw’n ifanc, mae'r Marschallin yn ofni y bydd ei phrydferthwch yn diflannu. Pan anfonir Octavian ar berwyl ar ran ei chefnder, mae’n syrthio mewn cariad â’r ferch ifanc a phrydferth, Sophie. A all y Marschallin rhyddhau Octavian, a gadael i wir gariad drechu popeth?

Mae opera foethus Richard Strauss yn cynnig comedi a drama ingol yn gyfartal, gydag ariâu, triawdau a waltsiau bythgofiadwy. Mae Rebecca Evans yn dychwelyd i'r llwyfan i chwarae rhan eiconig y Marschallin, ar ôl perfformio'r rhan i WNO yn 2017. Bydd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus hefyd yn dychwelyd i arwain cerddorfa o 90 o offerynwyr.

wno.org.uk/rosenkavalier | #WNOrosenkavalier