Coronavirus

Oherwydd cyfyngiadau parhaus y llywodraeth, mae Venue Cymru ar gau ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ein Swyddfa Docynnau ar y safle, a bydd yn parhau ar gau hyd nes rhoddir gwybod yn wahanol.  Yn ystod y cyfnod hwn, bydd Venue Cymru yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i Covid-19. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch i ddarllen y diweddariad statws ar waelod y dudalen hon. 

Mae ein tîm yn parhau i weithio’n agos gyda’n cwmnïau sy’n ymweld i aildrefnu digwyddiadau at ran olaf y flwyddyn ac i 2022. Cadwch lygaid ar y dudalen hon a byddwn yn parhau i’w diweddaru wrth i ni gael mwy o wybodaeth.

Statws digwyddiadau

  • Aida (17 Mawrth 2020) – WEDI’I GANSLO
  • BBC NOW Family Concert (22 Mawrth 2020) – WEDI’I GANSLO
  • Beautiful (14-18 Ebrill 2020) – WEDI’I GANSLO
  • Dancing Queen (25 Ebrill 2020) - WEDI’I GANSLO
  • Luke Evans (30 Ebrill 2020) - WEDI’I GANSLO
  • Everybody's Talking About Jamie (5-9 Mai 2020) - WEDI’I GANSLO
  • Jane Eyre (13-14 Mai 2020) - WEDI’I GANSLO
  • Footloose (1-6 Mehefin 2020 / 25-30 Ionawr 2021) - WEDI’I GANSLO
  • Buddy, The Buddy Holly Story (8-9 Mehefin 2020) - WEDI’I GANSLO
  • Côr y Penrhyn (27 Mehefin 2020) - WEDI’I GANSLO
  • In the Night Garden (30 Mehefin - 2 Gorffennaf) - WEDI’I GANSLO ***
  • Catch Us If You Can (8 Awst 2020) - WEDI’I GANSLO
  • Alexander O'Neill (5 Medi 2020) - WEDI’I GANSLO
  • The Hairy Bikers (15 Hydref 2020) - WEDI’I GANSLO
  • Max Boyce (22 Hydref 2020) – WEDI’I OHIRIO, dyddiad newydd i’w gadarnhau
  • Maximum RnB (23 Hydref 2020) – WEDI’I OHIRIO, dyddiad newydd i’w gadarnhau
  • Opera Cenedlaethol Cymru (Hydref 2020 a Gwanwyn 2021) – WEDI’I GANSLO
  • Anton & Erin (4 Mawrth 2021) – WEDI’I OHIRIO, dyddiad newydd i’w gadarnhau
  • Milkshake Live!  (Awst 2021) – WEDI’I GANSLO
  • Paw Pawtrol (Awst 2021) – WEDI’I GANSLO

Mae unrhyw gynyrchiadau na restrwyd uchod wedi cael eu haildrefnu ar gyfer dyddiad newydd ac maen nhw yn ôl ar werth. Chwiliwch am enw’r cynhyrchiad yn y bar chwilio i ddod o hyd iddo a’r dyddiad newydd.

*** Ers i In the Night Garden gael ei ganslo a’i ad-dalu, mae’r daith wedi cael ei haildrefnu ac mae i fod i ddod yn ôl i Venue Cymru ym mis Gorffennaf 2021

Sut i gysylltu â ni

E-bost: boxoffice@venuecymru.co.uk   Ffôn: 01492 872000 (Llinellau ar agor dydd Llun – ddydd Gwener 10am – 5pm, ac eithrio gwyliau’r banc).

Mae gennym bellach swyddfa docynnau ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn. Ar agor dydd Llun – ddydd Sadwrn, 10am-4pm.

Mae gennym dîm llawer llai nag arfer ar hyn o bryd, felly rydym yn gofyn yn garedig i chi fod yn amyneddgar, ac i chi ystyried cysylltu â ni dros e-bost i ddechrau.

Os oes gennych docyn ar gyfer digwyddiad sydd i ddod

Cysylltir â chwsmeriaid dros e-bost os bydd unrhyw amharu ar y trefniadau.

Gwiriwch eich ffeiliau spam a chaniatáu negeseuon e-bost gan: boxoffice@venuecymru.co.uk 

Bydd tocynnau gwreiddiol ar gyfer sioeau a aildrefnwyd yn ddilys ar gyfer y dyddiad/au newydd, felly cadwch eich tocyn gwreiddiol ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar y dyddiad newydd.

Cysylltir â chwsmeriaid os bydd digwyddiad yn cael ei ganslo a bydd ad-daliadau’n cael eu trefnu cyn gynted â phosibl. Bydd yr ad-daliad am werth y tocyn/tocynnau a brynwyd yn unig ac ni fydd yn cynnwys yr hyn a godwyd am ffioedd, trethi neu yswiriant.

Os gwnaethoch brynu tocynnau drwy asiant tocynnau megis Ticketmaster a See Tickets, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol. Bydd eu manylion cyswllt ar yr ohebiaeth cadarnhau’r archeb a gawsoch ganddynt.

Dylech barhau i ymweld â’r dudalen hon i gael y newyddion diweddaraf, a defnyddiwch y bar chwilio i wirio statws y sioe rydych wedi trefnu ei gweld.  

Diolch i chi am eich cefnogaeth, eich amynedd a’ch cydweithrediad parhaus. Rydym yn gwerthfawrogi’r rhwystredigaeth a’r siom pan fo sioeau yn gorfod cael eu gohirio neu eu canslo, ac rydym yn gofyn yn garedig i chi barhau i fod yn amyneddgar yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl pan fyddwn yn ailagor ein safleoedd.

 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event