The Commitments
-

The Commitments

The smash hit West End Musical

-
Archebwch nawr

Mae The Commitments yn ddathliad bywiog o fiwsig yr enaid. Yn dychwelyd i deithio o amgylch y DU ac Iwerddon 5 mlynedd ar ôl rhediad llwyddiannus a dorrodd recordiau yn West End Llundain a thaith dilynol a werthodd y tocynnau i gyd.  Mae The Commitments yn seiliedig ar y clasur o ffilm a enillodd BAFTA.

Cafodd The Commitments ganmoliaeth fyd-eang yn dilyn ei Premiere i’r byd yn Llundain, ac yn fuan iawn cafodd ei alw’n sioe gerddorol heb ei hail. Gyda dros 20 o ganeuon sould clasurol yn cael eu perfformio’n fyw ar y llwyfan gan gynnwys:  Night Train, Try A Little Tenderness, River Deep, Mountain High, In The Midnight Hour, Papa Was A Rolling Stone, Save Me, Mustang Sally, I Heard It Through The Grapevine, Thin Line Between Love and Hate, Reach Out, Uptight, Knock On Wood, I Can't Turn You Loose a mwy!

Dyma sicrwydd o noson hwyliog na anghofiwch fyth. Mae sioe gerdd The Commitments wedi’i addasu o nofel yr awdur Roddy Doyle a enillodd wobr Booker a chaiff ei chyfarwyddo gan Caroline Jay Ranger.